Cross Party Group Clean Air Act for Wales

Grŵp Trawsbleidiol Deddf Aer Glân i Gymru

Microsoft Teams

16 Hydref 2023, 10am-11am

Yn bresennol:

 

Aelodau o’r Senedd:

Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd)

Delyth Jewell AS

 

Rhai nad ydynt yn Aelodau o’r Senedd

Ioan Bellin

Huw Brunt

Deborah Butler

Joseph Carter

Ben Coates

Josephine Cock

Haf Elgar

Cyng Jeremy Hurley

Paul Lewis

Steve Manning

Rhian Nowell-Phillips

Verity Pownall

Rhian Williams

 

Ymddiheuriadau:

Llyr Gruffydd AS

Mark Isherwood AS

Peredur Owen Griffiths AS

 

1.       Croeso a chyflwyniad – Huw-Irranca-Davies AS

 

Croesawodd Huw Irranca-Davies AS y rhai a oedd yn bresennol i’r cyfarfod, a gwnaed cyflwyniadau i Aelodau o’r Senedd.

 

2.       Cofnodion y cyfarfod diwethaf – Huw-Irranca Davies AS

Cymeradwywyd y cofnodion yn ffurfiol ar ôl y cyfarfod.

 

3.       Materion sy’n codi – Joseph Carter, Awyr Iach Cymru

 

Nododd y Cadeirydd nad oedd unrhyw faterion yn codi o'r cyfarfod blaenorol. Fodd bynnag, soniodd Joseph Carter am y drafodaeth a gynhaliwyd yng nghyfarfod mis Mehefin a nododd y gallai aelodau’r GRhG ddisgwyl diweddariad manylach ar Fil yr Amgylchedd yng nghyfarfod nesaf y GRhG.

 

4.       Yr Athro Paul Lewis, Hyrwyddwr Aer Glân, Rhaglen Aer Glân – Diweddariad ar Llosgi Domestig

 

Rhoddodd Paul Lewis gyflwyniad a oedd yn rhoi trosolwg o gynnwys ac allbynnau’r Gweithdy Llosgi Domestig a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2023. Nod y gweithdy oedd dod ag arbenigwyr ynghyd i adolygu’r dystiolaeth gyfredol yn ymwneud â llosgi coed domestig, ffynonellau allyriadau PM 2.5, effeithiau iechyd, gwybodaeth y cyhoedd ac ymwybyddiaeth o effaith stofiau llosgi coed ar ansawdd aer, yn ogystal â phatrymau ymddygiad pobl o gwmpas llosgi domestig. Nod y gweithdy oedd darganfod pa atebion a allai fodoli i leihau amlygiad pobl i ansawdd aer gwael yn deillio o losgi domestig.

 

Daeth nifer dda i’r digwyddiad, gyda chynrychiolaeth o grŵp amrywiol o randdeiliaid, gan gynnwys academyddion o’r DU a Gweriniaeth Iwerddon, cynrychiolwyr y llywodraeth, swyddogion iechyd cyhoeddus, awdurdodau lleol, sefydliadau anllywodraethol, ac eiriolwyr cyhoeddus.

 

Nododd Paul Lewis bod dau gyflwyniad yn y gweithdy. Edrychodd y cyflwyniad cyntaf ar ffynonellau gronynnau mân o losgi tanwydd solet domestig dan do ac yn yr awyr agored. Edrychodd yr ail sesiwn ar effeithiau iechyd llosgi domestig a'r patrymau ymddygiad sydd gan losgwyr. Yn dilyn y ddau gyflwyniad, cynhaliwyd trafodaeth agored gyda’r mynychwyr, gan ganolbwyntio ar ystyried atebion posibl i fynd i’r afael â her llosgi domestig.

 

Siaradodd Paul siarad yn gyntaf am gyflwyniad Dr Gary Fuller yn y gweithdy, a rannodd ddata o ddwy astudiaeth a gynhaliwyd yn Llundain. Y cyntaf o’r rhain oedd astudiaeth Prosiect Llosgi Pren Llundain, gydag astudiaeth arall a oedd yn mapio mannau poeth llygredd aer. Dangosodd Prosiect Llosgi Pren Llundain effaith llosgi domestig y tu mewn i'r cartref ar lefelau PM2.5 y tu allan i'r cartref, gan fod cydberthynas amlwg rhwng y cyfnodau brig y tu mewn a'r tu allan. Mae hyn yn ddefnyddiol gan ei fod yn hysbysu ein dealltwriaeth bod lefelau datguddiad (i PM2.5) yn gysylltiedig â gweithredoedd ac ymddygiad pobl wrth ddefnyddio eu llosgwyr coed.

 

Yna trafododd Paul astudiaeth arall a gyflwynwyd yng ngweithdy mis Mehefin gan Rohit Chakraborty o Brifysgol Sheffield. Yn yr astudiaeth, gosododd Chakraborty synwyryddion yng nghyffiniau stofiau llosgi coed mewn 20 o wahanol gartrefi, yn ogystal ag yn yr awyr agored y tu allan i'r cartrefi hynny, gan gofnodi data dros gyfnod o 4 wythnos. Dangosodd y data batrwm a oedd yn dangos y gall lefelau cyfartalog crynodiadau PM2.5 yn yr ystafell, trwy ddefnyddio rhai stofiau llosgi coed, gynyddu bron i 200% o gymharu â pheidio â chael stôf a'i defnyddio.

 

Dangosodd yr astudiaeth hefyd, pan ddefnyddir y stofiau, y gall lefelau PM2.5 gynyddu dros 400%. Edrychodd yr astudiaeth hefyd i weld a oedd lefelau PM2.5 yn yr awyr agored yn dylanwadu ar lefelau PM2.5 dan do. Canfu Chakraborty nad oedd unrhyw gydberthynas yn hyn o beth, sy'n golygu y gallwn ddod i'r casgliad rhesymol mai'r llosgi coed a ddefnyddir y tu mewn i gartref fydd prif achos crynodiadau PM2.5 y tu mewn i'r cartref.

 

Edrychodd ail sesiwn y gweithdy ar effeithiau iechyd a phatrymau ymddygiad. Cyflwynodd Dr Karen Exley, sy'n arwain ar ansawdd aer ac iechyd y cyhoedd yn Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, ei gwaith a oedd yn edrych ar amlygiad i losgi tanwydd solet preswyl a'r effeithiau iechyd dilynol. Edrychodd ei grŵp ar amlygiad i hylosgiad tanwydd solet dan do ac yn yr awyr agored a chanlyniadau anadlol ymhlith plant ac oedolion. Roedd y rhain yn 2 adolygiad systematig a gynhaliwyd gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU lle buont yn edrych ar ystod gyfan o astudiaethau o wledydd datblygedig.

Trwy'r adolygiadau systematig, edrychodd adolygiad Exley ar ddata risg asthma o 40 o astudiaethau gwahanol. Canfuwyd bod y data yn gwrthdaro o ran canlyniadau. Yn yr astudiaethau cynharach a ystyriwyd, roedd y rhain yn tueddu i ddangos nad oedd unrhyw risg uwch o asthma o gwbl o ganlyniad i losgi pren solet. Fodd bynnag, dangosodd rhai o'r astudiaethau diweddarach fod risg uwch o asthma plentyndod pan fo llosgi coed yn digwydd, gyda'r risg hon weithiau'n sylweddol. Daethant i’r casgliad bod llygryddion aer o losgi coed dan do yn achosi amrywiaeth o effeithiau iechyd, yn enwedig cyflyrau anadlol, ond nid yw’n glir ar hyn o bryd beth yw hyd a lled yr effeithiau ar iechyd yn sgil dod i gysylltiad, o ganlyniad i’r sail dystiolaeth anghyson. Canfu’r astudiaeth fod y dystiolaeth epidemiolegol yn dangos rhai cysylltiadau ag effeithiau anadlol andwyol mewn plant ac oedolion, o ganlyniad i ddod i gysylltiad â llosgi coed, ond mae angen astudiaethau ychwanegol a gwell i nodi perthnasoedd clir a galluogi meintioli mwy dibynadwy.

 

Yna aeth Paul ymlaen i egluro'r gwaith a gyflwynwyd yn y gweithdy gan Dr James Heydon o Brifysgol Nottingham. Roedd y rhain yn ymwneud yn bennaf â gorfodi mewn ardaloedd rheoli mwg, yn ogystal ag ymddygiad y boblogaeth tuag at losgi coed mewn ardaloedd sy'n destun gorchmynion rheoli mwg.

 

Cafodd Heydon drafodaeth â swyddogion awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am orfodi gorchmynion rheoli mwg, a oedd yn teimlo y byddai'n anodd cynyddu ardaloedd rheoli mwg oherwydd y rhwystrau niferus sy'n ymwneud â chasglu tystiolaeth. Er enghraifft, mae gorfodi ynghylch llosgi yn y nos yn anodd oherwydd bod swyddogion awdurdodau lleol yn gweithio yn ystod y dydd yn unig, sy'n golygu na allant fonitro lefelau uchel o PM2.5 yn y nos. Fodd bynnag, roedd swyddogion awdurdodau lleol o blaid cyflwyno 'diwrnodau dim llosgi' ar draws y DU cyn belled â bod systemau monitro priodol ar waith a chyfathrebu effeithiol.

 

Amlygodd swyddogion hefyd fod ardaloedd rheoli mwg yn fuddiol gan eu bod yn annog stofiau mwy effeithlon a lefelau llosgi is. Fodd bynnag, pwysleisiodd Paul Lewis fod nifer sylweddol o orchmynion rheoli mwg. Trwy annog stofiau mwy effeithlon, mae ardaloedd rheoli mwg mewn gwirionedd yn arwain at normaleiddio llosgi coed ac ymddygiadau di-fudd eraill o amgylch llosgi domestig. Os yw pobl yn meddwl bod eu gweithredoedd – llosgi coed – yn normal oherwydd bod ganddyn nhw'r offer mwyaf effeithlon a'u bod nhw'n cadw at y rheolau sydd wedi'u gosod mewn ardaloedd rheoli mwg, dydyn nhw ddim yn gweld llosgi coed yn ymddygiad niweidiol.

 

Trafodwyd astudiaeth arall yn y cyfarfod hefyd, a oedd yn seiliedig ar system we ar gyfer 'rhybuddion llosgi'. Roedd y system yn galluogi defnyddwyr i wneud dewis gwybodus ynghylch cynnau eu tân ai peidio drwy dderbyn rhybuddion pan oedd PM2.5 yn uchel yn eu hardaloedd. Roedd y system yn llwyddiannus iawn, gyda 72% o’r bobl a gymerodd ran yn yr astudiaeth – drwy optio i mewn yn wirfoddol – wedi osgoi cynnau tân o leiaf unwaith o ganlyniad i gael eu hysbysu am lefelau cymedrol neu uchel o PM2.5 yn eu hardal. Yn yr un modd, gwnaeth 33% o'r rhai a oleuodd eu stofiau hynny am gyfnod byrrach ar ôl derbyn rhybudd yn eu hysbysu am lefelau cymedrol neu uchel o PM2.5.

 

Roedd adran olaf cyflwyniad Paul Lewis yn trafod y drafodaeth agored a gynhaliwyd yn y gweithdy, dan gadeiryddiaeth Larissa Lockwood o Global Action Plan. Canolbwyntiodd y drafodaeth yn y gweithdy ar y cwestiynau canlynol:

1)      Pa atebion sy'n bodoli i liniaru amlygiadau niweidiol i losgi domestig?

2)      Sut y gellir gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o losgi domestig gan losgwyr coed ar gyfer llosgwyr coed a'r cyhoedd?

3)      Pa dystiolaeth sydd ar gael ar gyfer strategaethau newid ymddygiad?

 

Aeth y drafodaeth hefyd, fodd bynnag, i ganolbwyntio ar gyn lleied o dystiolaeth oedd yn bodoli ynghylch llosgi domestig, yn enwedig ynghylch atebion ar gyfer goresgyn yr heriau o’i gwmpas. Y ddau bwnc allweddol a drafodwyd, a ysgogwyd gan y cwestiynau uchod, oedd y materion yn ymwneud â safbwyntiau ynghylch defnyddio stofiau (ymddygiad a gwybodaeth y cyhoedd) ac atebion posibl ar gyfer lleihau allyriadau a dod i gysylltiad â llosgi coed. Nododd y drafodaeth hefyd fod y mwyafrif o bobl sy'n llosgi stofiau yn ei wneud am resymau ffordd o fyw, yn hytrach nag oherwydd bod angen gwresogi eu cartrefi. Yn ogystal, dangosodd canlyniadau arolygon barn rheolaidd a gynhaliwyd gan Global Action Plan nad oedd y mwyafrif o bobl yn gwybod bod llosgi coed yn achosi llygredd aer nac yn credu bod iddo ganlyniadau iechyd negyddol.

 

Gan droi at atebion, canolbwyntiodd y drafodaeth ar orfodi a rheoliadau, yn ogystal ag atebion uniongyrchol eraill, megis gweithredu ymgyrch gan lywodraeth genedlaethol i ddylanwadu ar ymddygiad a dadnormaleiddio llosgi coed, a ategwyd gan dystiolaeth glir. Nododd y gweithdy hefyd fod heriau sylweddol yn ymwneud â gorfodi ar lefel awdurdodau lleol, a bod angen mwy o gymorth ar gyfer swyddogion gorfodi. Dangosodd arolwg barn arall a gynhaliwyd gan Global Action Plan mai dim ond 37% o’r cyhoedd fyddai’n cefnogi gwaharddiad ar stofiau llosgi coed. Nododd y gweithdy hefyd y gallai cynllun sgrapio ar gyfer llosgwyr hefyd fod yn ateb ymarferol ar gyfer lleihau llosgi.  Yn olaf, roedd cytundeb yn y gweithdy bod angen labelu llawer gwell ar stofiau llosgi coed, gan amlygu i ddefnyddwyr y canlyniadau amgylcheddol ac iechyd o ddefnyddio stofiau. 

 

5.       Josephine Cock - Cyflwyniad ar Losgi Domestig o Safbwynt y Claf

Yn anffodus, oherwydd mater technegol, roedd Josephine Cock yn methu â rhoi ei chyflwyniad arfaethedig yn ystod y cyfarfod. Yn lle hyn, bydd trawsgrifiad o'r cyflwyniad yr oedd Josephine wedi bwriadu ei gyflwyno yn cael ei rannu ochr yn ochr â chofnodion cyfarfod y GRhG ar Aer Glân.

 

6.       Sesiwn Holi ac Ateb ar y Cyflwyniad Llosgi Domestig

Cyn agor i gwestiynau ar gyflwyniad Paul Lewis, dywedodd Huw Irranca-Davies MS ei fod yn cytuno â’r pwyntiau a wnaed yn y cyflwyniad a glywodd y cyfarfod, yn enwedig ynghylch datblygu’r dystiolaeth ar effeithiau amgylcheddol ac iechyd llosgi coed, ond hefyd ar ddod o hyd i atebion i gyflwyno’r negeseuon ynghylch llosgi domestig a fydd yn arwain at well gwybodaeth a newid ymddygiad y cyhoedd.

 

Gofynnodd Delyth Jewell AS i Paul Lewis sut y gallwn sicrhau'r newidiadau y mae angen i ni eu gweld mewn llosgi domestig mewn ffordd deg. Nododd, oherwydd gwybodaeth gyhoeddus wael, fod llawer o bobl sydd wedi prynu stofiau llosgi coed yn credu eu bod wedi gwneud dewis sydd o fudd i'r blaned, sy'n groes i'r dystiolaeth sydd gennym. Pwysleisiodd Jewell hefyd y bydd yn bwysig cyflwyno'r neges mewn ffordd nad yw'n gwneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu cosbi. Cytunodd Paul Lewis bod angen i newid ddigwydd yn deg a bod angen i'r neges gael ei chyfleu mewn ffordd a fydd yn sicrhau bod pobl yn ymgysylltu â'r wybodaeth. Roedd hefyd yn cytuno bod diffyg ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd o effaith llosgi coed yn her allweddol y mae angen ei goresgyn.

 

Roedd Steve Manning yn meddwl tybed a ellid datblygu’r gostyngiad mewn llosgi domestig fel rhan o ffocws ar ansawdd aer dan do, o ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd yn y gweithdy a ddangosodd yr effaith sylweddol y mae llosgi coed yn ei chael ar lygredd aer dan do. Cyfeiriodd Paul Lewis at astudiaeth James Hayden, a amlinellwyd uchod, ar y broses o ddadnormaleiddio. Yr allwedd i oresgyn yr her fydd adeiladu mwy o ymwybyddiaeth yn y boblogaeth o effaith negyddol llosgi coed, gydag astudiaeth James Hayden yn dangos ymagwedd bosibl ddefnyddiol ar gyfer hyn, trwy negeseuon uniongyrchol a pherthnasol a gwybodaeth am ansawdd aer yn ardaloedd pobl. Roedd Steve Manning hefyd yn dadlau bod angen i ni alw am gynlluniau sy'n cymell pobl i ddefnyddio offer 'derbyniol' a 'chymeradwy' sy'n cynhyrchu PM2.5, gan nodi boeleri biomas fel enghraifft o hyn. Mewn ymateb, dadleuodd Paul Lewis pe bai Llywodraeth Cymru yn diwygio system gynllunio o amgylch systemau o’r fath y byddai hyn yn debygol o achosi llawer o ddicter ymysg y cyhoedd. Yn hytrach, dadleuodd y dylid canolbwyntio ar leihau’r defnydd o’r systemau gwresogi sydd ar gael yn awr. Dadleuodd Paul Lewis fod angen i'r 'effaith llifogydd' - y cynnydd sylweddol mewn llygredd aer yn y cartref wrth actifadu a defnyddio stôf llosgi coed - fod yn elfen allweddol o'r ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus y galwodd y gweithdy ar lywodraeth genedlaethol i'w chyflawni.

 

Hysbysodd Huw Irranca-Davies AS y mynychwyr y bydd yn rhaid symud cyflwyniad Josephine Cock i gyfarfod yn y dyfodol, i'w benderfynu, oherwydd materion technegol yn y cyfarfod. Nododd hefyd y byddem yn rhannu’r cyflwyniad hwnnw roedd Josephine wedi bwriadu ei roi.

 

7.       Joseph Carter - Diweddariad ar Fil yr Amgylchedd

 

Rhoddodd Joseph Carter y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Bil yr Amgylchedd drwy’r Senedd, a oedd wedi symud yn ddiweddar y tu hwnt i Gyfnod 2 ac i mewn i graffu Cyfnod 3. Tynnodd sylw at y gwelliannau yr oedd Llywodraeth Cymru wedi’u cyflwyno a soniodd am rai o’r gwelliannau yr oedd Aelodau gwrthbleidiau y Senedd wedi’u cyflwyno yng Nghyfnod 2. Roedd Joseph Carter yn croesawu’n arbennig y cyfeiriad at derfynau Sefydliad Iechyd y Byd ar lygredd aer ar wyneb Bil yr Amgylchedd.

 

Nododd Huw Irranca-Davies AS yr effaith yr oedd aelodau’r Grŵp Trawsbleidiol ar Aer Glân wedi’i chael wrth lunio rhai o’r gwelliannau a gyflwynwyd yng Nghyfnod 2 Bil yr Amgylchedd. Nododd Delyth Jewell AS lefel y consensws o fewn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith (y Pwyllgor NH, A, S) a’i fod yn gobeithio y gallai’r Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd gefnogi’r Bil yn ddiweddarach yn nghyfnodau’r Bil, er mwyn parhau â’r gefnogaeth drawsbleidiol i’r Bil a ddangoswyd hyd yn hyn. Cytunodd Huw Irranca-Davies AS am y lefelau uchel o gonsensws yn y Pwyllgor, fodd bynnag, nododd bod rhywfaint o raniadau gwleidyddol ynghylch y Bil am yr elfennau yn rhoi pwerau i gyflwyno cynlluniau codi tâl ar gefnffyrdd.

 

8.       Joseph Carter, cyfarfod nesaf a rhaglen waith y dyfodol

Hysbysodd Joseph Carter yr aelodau fod y cyfarfod nesaf wedi'i drefnu ar gyfer diwedd mis Chwefror, o ganlyniad i Aer Iach Cymru yn cynnal derbyniad yn y Senedd i ddathlu pasio Bil yr Amgylchedd. Rhoddodd Joseph amlinelliad o'r agenda yn y derbyniad i'r aelodau, gan nodi ein bod yn disgwyl i'r Dirprwy Weinidog roi araith.

 

I’w nodi: ers y cyfarfod, cytunwyd gyda swyddfa’r Cadeirydd y cynhelir y cyfarfod hwn nawr yn gynnar ym mis Mai 2024.

 

Cytunwyd bod Paul Lewis yn dwyn ynghyd allbynnau gweithdy mis Mehefin mewn nodyn i'w rannu gydag aelodau'r GRhG. Ymhellach, cytunwyd bod Ben Coates wedyn yn cymryd y nodyn hwn ac yn drafftio llythyr at y Dirprwy Weinidog, yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Llywodraeth Cymru ar yr agenda llosgi domestig.

9.       Huw Irranca-Davies AS – Unrhyw fusnes arall

Nid oedd unrhyw fater arall i’w drafod.

 

Y cyfarfod nesaf

Cynhelir cyfarfod nesaf y GRhG ym mis Ebrill neu fis Mai a chaiff ei dreialu fel cyfarfod hybrid. Nid yw'r dyddiad wedi'i gytuno eto.